Mae Llys y Goron Bryste wedi clywed sut y gwnaeth chwaraewr rygbi rhyngwladol Lloegr dorri penglog dyn ar noson allan gyda’i gyd chwaraewyr.

Mae asgellwr Caerloyw, Lesley Vainikolo wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i Jake Alicker.

Roedd Alicker a’i ffrind yn gefnogwyr rygbi ac wedi adnabod Vanikolo a’i gyd chwaraewyr Olly Barkley, Matthew Stevens, Michael Lipman a Justin Harrison ar noson allan yng Nghaerfaddon.

Fe wnaeth y ddau longyfarch Vainikolo am sgorio dau gais i’w glwb yn gynharach yn y dydd.

Ymosod

Ond wrth adael clwb nos Second Bridge yn oriau man bore 26 Hydref y llynedd, fe wnaeth Lesley Vainikolo daro Jake Alicker yn ei ben.

“Roedden nhw’n cerdded tu ôl i’r diffynnydd, ac maen nhw’n nodi na chafodd dim byd i’w dweud ganddynt”, meddai’r erlynydd, William Hunter.

“Fe wnaeth e’ (Vainikolo) droi ‘nôl i fwrw Mr Alicker yn galed yn ei ben. Doedd dim rheswm am hynny,” meddai.

Yn ôl yr erlynydd, fe wnaeth gyrrwr tacsi weld y seren rygbi yn taro Jake Alicker unwaith cyn ffoi.

Mae’r achos yn parhau.