Mae car dyn anabl wedi cael ei glampio gan feilïaid ar ddreif ei gartref ei hunan yn Abertawe.

Cafodd car Brian Chandler, o Ffordd Caerfyddin, ei glampio oherwydd nad oedd wedi talu dirwy am barcio mewn man oedd wedi neilltuo ar gyfer llwytho yn unig yng nghanol Abertawe, fis Rhagfyr diwethaf.

Mae Brian Chandler yn honni ei fod wedi ysgrifennu i Gyngor Sir a Dinas Abertawe yn egluro ei fod yn credu fod y bathodyn glas anabl sydd ar ei gar yn ei alluogi i barcio lle y gwnaeth.

Ac mae’n honni nad oedd wedi derbyn ymateb gan y cyngor a’i fod yn credu na fyddai’n clywed dim pellach am yr achos.

Ond mae’r cyngor yn honni iddynt ysgrifennu ato bump o weithiau, heb ymateb, a bod y mater wedi mynd i’r llys sirol, wnaeth drosglwyddo’r achos i ofal y beilïaid.

Dibynnol ar y car

Mae Brian Chandler yn dioddef o glefyd y siwgr, ac o Ankylosing spondylitis, cyflwr sy’n effeithio’r asgwrn cefn a’r esgyrn, sy’n ei gwneud hi’n anodd iddo gerdded.

Mae wedi dweud ei fod yn ddibynnol ar y car, a bod ganddo ddim digon o arian i dalu’r £320, mae’r beilïaid yn mynnu ganddo.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir a Dinas Abertawe fod Brian Chandler, a phob un arall sydd â bathodynnau glas ar eu ceir, yn gwybod na fedran nhw barcio lle mynno nhw.

Yn ogystal â derbyn pum llythyr gan y cyngor, dywedodd y llefarydd y byddai Brian Chandler wedi derbyn dau lythyr gan y beilïaid hefyd, cyn i’r car gael ei glampio.

“Bydd yn rhaid i Mr Chandler setlo’r mater efo’r beilïaid nawr” meddai’r llefarydd.