Mae Samoa wedi newid o yrru ar ochor dde’r ffordd i’r ochor chwith, heb unrhyw adroddiadau o ddamweiniau.

Er hyn, mae swyddogion ar yr ynys wedi rhybuddio’r cyhoedd i gadw’n effro, gan fod damweiniau yn fwy tebygol o ddigwydd wrth i yrwyr ymlacio, cyn i’r amodau newydd ddod yn ail natur.

Cyn i’r newid ddigwydd, roedd adroddiadau fod pobol Samoa wedi tyrru i eglwysi’r ynys er mwyn gweddïo na fyddai damweiniau.

Y rheswm am y newid yw bod y llywodraeth am ddechrau mewnforio ceir rhatach o Awstralia a Seland Newydd – sy’n gyrru ar ochor chwith y ffordd – yn lle ceir o’r Unol Daleithiau ac Ewrop.

Samoa yw’r wlad gyntaf mewn degawdau i benderfynu newid ochor y ffordd yn swyddogol.

Fe wnaeth Gwlad yr Ia newid yn yr 1960au, a Nigeria, Ghana ac Yemen yn y 70au.

Roedd Samoa’n gyrru ar y dde oherwydd cyfnod byr o reolaeth gan yr Almaenwyr ddechrau’r ganrif ddiwethaf.