Mae cyn bennaeth gwrth derfysgaeth Prydain wedi dweud heddiw y dylai’r cyfyngiadau ar gario boteli diod meddal ar awyrennau aros yn eu lle.

Gwnaeth Andy Hayman ei sylwadau wrth i faes awyr Newcastle dreialu peiriant sganio newydd i adnabod cemegau sy’n creu ffrwydron.

Mae’r sganiwr newydd (yn y llun) wedi cael ei gynllunio i adnabod sylweddau tebyg i hydrogen peroxide – cemegyn sy’n gallu cael ei gymysgu gyda chemegau eraill i greu ffrwydron.

‘Dryswch’

Mae cwmnïau awyrennau wedi croesawu’r datgblygiad ac mae Awdurdod Meysydd Awyr Prydain eisoes wedi galw am adolygu’r cyfyngiadau ar gario poteli hylif ar awyrennau.

Ond dywedodd Andy Hayman y byddai newid y rheolau eto yn creu “dryswch,” a’r hyn sydd ei angen yw “cael y dechnoleg yn ei le yn ogystal â’r cyfyngiadau”, er mwyn i bobol “wybod beth i’w ddisgwyl.”

Cyflwynwyd y rheolau yn 2006 wedi canfod cynllwyn i ffrwydro awyrennau gan ddefnyddio bomiau hylif mewn poteli diod.

Ddoe cafodd tri o Fwslemiaid eithafol eu cael yn euog o gynllwyno i lofruddio.