Mae dyn sydd wedi’u gyhuddo o lofruddio’i bartner ar ôl iddi newid statws ei pherthynas i ‘sengl’ ar wefan rwydweithio gymdeithasol ‘Facebook’, wedi gwadu’r cyhuddiad yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Mae Brian Lewis 31, tad i bedwar o blant, o Pritchard Terrace, Tredegar Newydd, yn sir Caerffili, yn wynebu cyhuddiad o dagu Hayley Jones yn eu cartref ar 12 Mawrth.

Cafodd ei thrywanu yn ei brest yn ogystal.

Clywodd y llys fod Hayley Jones wedi newid  statws ei pherthynas i ’sengl’ ar wefan Facebook- yn dilyn ffrae gyda’i phartner dros ddisgyblu eu plant ar 2 Fawrth. 

Honnir fod hyn wedi gwylltio Brian Lewis a’i yrru i lofruddio ei bartner.

Wrth i’w fargyfreithiwr, Peter Murphy QC, holi Brian Lewis yn Llys y Goron Caerdydd am fygythiadau wnaeth e’ cyn i’w bartner farw fe wnaeth e’ ddechrau crio.

Fe wnaeth ffrindiau ofyn iddo fe mewn noson allan ar 8 Mawrth os oedd e’n pryderu bod ei bartner yn cyfathrebu gyda dynion eraill ar y we, ei ateb oedd, “Rwy’n gobeithio nad yw hi neu bod neb yn mynd ar ei hôl hi, neu fe wnai dorri ei gyddfau neu eu pennau.”

Emosiwn

Dywedodd Lewis wrth y rheithgor, “Dim ond dweud hynny mewn rhwystredigaeth wnes i. Mae’n iawn i fi ddweud y byddwn i fyth yn dweud rhywbeth fel ‘na ond…”

Pan wnaeth ei fargyfreithiwr ofyn iddo fe orffen y frawddeg wedi saib hir, siaradodd Lewis a’i lais yn crynu gydag emosiwn.

“Pan y’ch chi wedi yfed….. ry’ch chi’n dweud y byddech chi ddim yn ei wneud e’ mewn gwirionedd…ond ar ôl beth wnes i i Hayley, allai ddim esbonio fe.”

Yna gofynnodd Mr Murphy i Brian Lewis, “A wnaethoch chi gynllunio i drywanu Hayley yn fwriadol?”
“Na,” oedd yr ateb.

Wedi’r llofruddiaeth honedig, fe yrrodd Brian Lewis i’r orsaf heddlu leol gan adael ei blant i ganfod corff eu mam yn yr ystafell fyw.

Roedd y ddau wedi bod gyda’i gilydd ers 13 mlynedd. Ond clywodd y llys fod y berthynas wedi dechrau dirywio wedi i Brian Lewis golli ei waith ar y rheilffyrdd yn 2007.

Mae’r achos yn parhau.