Cymru i chwarae yng Nghaerdydd…ond nid yn Stadiwm y Mileniwm?

Ridsdale am weld gemau rhyngwladol yn cael eu cynnal yng nghartref yr Adar Glas

Mae cadeirydd Caerdydd, Peter Ridsdale wedi dweud y bydd yn cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Pêl Droed Cymru ynglŷn â chynnal gemau rhyngwladol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd cytundeb presennol Cymru i chwarae eu gemau rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm yn dod i ben ar ôl y gêm yn erbyn Rwsia nos Fercher.

Mae hyfforddwr Cymru, John Toshack, eisoes wedi dweud ei fod yn credu y byddai Stadiwm Dinas Caerdydd yn le da i gynnal gemau rhyngwladol.

Dywedodd Ridsdale y bydd e’ yn cynnal trafodaethau gyda David Collins, ysgrifennydd cyffredinol y gymdeithas yr wythnos hon.

“Pe bai David Collins yn gofyn a allai Cymru chwarae yn ein stadiwm newydd, byddem yn falch iawn i’w helpu”, meddai’r cadeirydd.