Mae Abertawe yn agos i arwyddo cyn ymosodwr Ajax, Cedric van der Gun.

Roedd yr Iseldirwr yn Abertawe ddoe i gyfarfod â’r rheolwr Paulo Sousa a chael cip ar gyfleusterau’r clwb.

Fe ddywedodd Karel Jansen, asiant van der Gun, ei fod yn obeithiol y bydd cytundeb yn cael ei gwblhau.


Cytundeb

Ni fydd angen i’r Elyrch dalu ffi am Van der Gun wedi iddo gael ei rhyddhau gan FC Utrecht dros yr haf.

Mae disgwyl i’r ymosodwr arwyddo cytundeb dwy flynedd ar ôl iddo basio ei brofion meddygol.


Cyfnodau prawf

Mae Paulo Sousa hefyd wedi rhoi cyfnodau prawf i ddau chwaraewr arall wrth iddo geisio cryfhau ei garfan ymhellach.

Bydd y chwaraewr canol cae o’r Iseldiroedd, Dominique van Dijk, a’r ymosodwr o’r Congo, Matt Moussilou, yn treulio wythnos gyda’r garfan.

Mae Moussilou wedi chwarae i amryw o glybiau yn Ffrainc gan gynnwys Marseille, Saint-Etienne a Lille cyn cael ei rhyddau gan Nice dros yr haf.

Roedd van Dijk wedi treulio cyfnodau gyda Sparta Rotterdam, FC Groningen a FC Volendam yn yr Iseldiroedd cyn ei brawf yn ne Cymru.

Fe fydd y ddau yn chwarae i’r ail dîm yn erbyn Swindon yfory.

(Llun: Paulo Sousa)