Mae 35 o löwyr wedi cael eu lladd mewn glofa yn China yn dilyn ffrwydrad.
Digwyddodd y ffrwydrad yn ystod oriau mân bore heddiw, yng nglofa Xinhua, yn ninas Pingdingshan, yn nhalaith Henan.
Mae’n debyg fod 44 o löwyr yn dal i fod yn gaeth yn y gloddfa.
Yn ôl swyddogion o adran iechyd a diogelwch llywodraeth China, does dim eglurhad eto ynglŷn ag achos y ffrwydrad.