Mae tîm sy’n ymchwilio i’r ffordd y gweinyddwyd etholiadau Afghanistan wedi dweud heddiw eu bod wedi darganfod “tystiolaeth glir ac argyhoeddiadol o dwyll” ac wedi gorchymyn ail-gyfrif pleidleisiau mewn rhai gorsafoedd pleidleisio.

Dyw’r comisiwn cwynion etholiadol ddim wedi dweud faint o bleidleisiau fydd angen eu hail gyfrif ond maen nhw wedi nodi canlyniadau amheus yn nhaleithiau Ghazni, Paktika a Kandahar.

Yn ôl y comisiwn, mae’n debyg y bydd ail-gyfrif mewn gorsafoedd lle mae mwy na 100% o etholwyr wedi bwrw’u peidlais neu ble mae ymgeiswyr wedi derbyn mwy na 95% o bleidleisiau.

Hyd yma, mae oddeutu 200,000 o bleidleisiau o 447 o orsafoedd gwahanol wedi cael ei di-ystyru o ganlyniad i dwyll, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.

“Amheus”

“Roedd y rhifau’n amheus ac nid oedd y canlyniadau yn cydfynd gyda’r ffigurau ar y ffurflen gysoni “meddai Daoud Ali Najafi, prif swyddog etholiadol y Comisiwn Etholiad Annibynnol.

Gyda chanlyniadau dros 90% o’r gorsafoedd pleidleisio wedi’u rhyddhau, mae gan Hamid Karzai dros 54% o’r pleidleisiau.

Mae angen i ymgeisydd gael dros 50% o’r bleidlais cyn gallu ennill, neu bydd ail etholiad yn cael ei gynnal rhwng y ddau sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau.