Mae Caerdydd wedi cynnig cytundeb pedair blynedd newydd i’w chwaraewr canol cae Joe Ledley.

Mewn cyfarfod gyda chefnogwyr y clwb ym Merthyr Tudful neithiwr, fe ddywedodd cadeirydd y clwb, Peter Ridsdale bod y cynnig fwy neu lai yn dyblu ei gyflog.

Ychwanegodd Ridsdale bod y cynnig hefyd yn cynnwys cymal oedd yn galluogi Ledley adael y brifddinas am glwb o’r Uwch Gynghrair pe bai’r cynnig yn bodloni Caerdydd.


Uwch Gynghrair

“Mae Joe am chwarae yn yr Uwch Gynghrair, ac rwy’n deall hynny”, meddai Ridsdale.

“Dyna ble mae pawb am fod, ac rwyf am sicrhau hynny i Gaerdydd.”

“Rwyf am wneud popeth i gael Joe i arwyddo cytundeb newydd ac iddo ddangos ei ymrwymiad i’r clwb”

Fe ddywedodd Ridsdale bod Joe Ledley a’i gynghorwyr yn hapus i gynnal trafodaethau.