Mae un o sêr Cymreig rhaglen MTV Dirty Sanchez yn gwella ar ôl cael ei drywanu yn ei wddw mewn siop yn nwyrain Lloegr.

Roedd Matt Pritchard gyda’i gariad mewn siop yn Dereham ger Norwich, pan wnaeth e ymyrryd mewn ffrae rhwng dyn lleol ag aelodau o’r staff.

Dywedodd Pritchard wrth y South Wales Echo ei fod yn lwcus i fod yn fyw ar ôl yr ymosodiad a chafodd anafiadau i’w wddw a’i frest.

Roedd y ffrae wedi cychwyn ar ôl i staff y siop ofyn i’r dyn lleol yn ei 30au am adnabyddiaeth.

“Fe ddechreuodd y dyn regi. Roedd yn ffiaidd. Dywedais wrtho am beidio siarad fel ‘na o flaen menywod a phlant oedd yn y siop”, meddai Matt Pritchard wrth y papur.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi cael ei arestio ychydig ar ôl y digwyddiad yn ei gartref yn ardal Dereham. Mae’n parhau i fod yn y ddalfa.

Llun: Matthew Pritchard