Mae cytundeb newydd rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r pedwar Rhanbarth yn golygu y bydd y gêm rhwng y tîm cenedlaethol a Seland Newydd yn cael ei chwarae ym mis Tachwedd.

Mae hefyd yn golygu bod y Rhanbarthau’n addo cynnwys hyn-a-hyn o chwaraewyr Cymreig ym mhob carfan ar gyfer gêm ac yn cyfyngu ar nifer y chwaraewyr tramor.

O ganlyniad, fe fydd yr arian sy’n mynd o’r Undeb i’r Rhanbarthau yn agos at ddyblu – rhan o’r ateb tymor hir i broblem tymor byr tros gêm y Teirw Duon.

Doedd y Rhanbarthau ddim am ryddhau chwaraewyr gan eu bod yn honni fod y gêm wedi ei threfnu tu allan i’r calendr gêmau rhyngwladol swyddogol.

Roedd perygl y byddai’r achos wedi mynd i’r Uchel Lys pe na bai’r cytundeb wedi cael ei gymeradwyo.

Manylion y cytundeb

• Yn ôl y cytundeb newydd, bydd tîm rygbi Cymru yn cael chwarae hyd at 13 gêm ryngwladol, a dwy gêm ychwanegol sydd heb fod yn rhai rhyngwladol llawn.

• Cyn gêmau o’r fath, bydd chwaraewyr yn cael eu rhyddhau o’r Rhanbarthau 13 diwrnod o flaen llaw.

• Yn ogystal, mae disgwyl y bydd sgwadiau Rhanbarthau yn cynnwys, ar gyfartaledd, o leiaf 17 allan o’r 22-23 mewn carfan ar gyfer gêm, i fod yn gymwys i chwarae i Gymru.

• Yn ogystal, mae’r Rhanbarthau’n cyfyngu nifer y chwaraewyr o’r tu allan i Gymru i ddim ond chwech – ac eithrio rhai sy’n ceisio cymwyso i chwarae i’r wlad.
Mae’r cytundeb yn golygu y bydd y Rhanbarthau yn elwa’n ariannol. Mae’r £3.6 miliwn sy’n cael ei roi iddyn nhw yn flynyddol gan URC, yn mynd i gynyddu i £6 miliwn.

Rygbi yn ffynnu

Yn ôl URC, wrth gynnig y newidiadau yma, y gobaith yw y bydd rygbi proffesiynol yn ffynnu yng Nghymru, ac y bydd chwaraewyr Cymreig yn cael eu datblygu ar gyfer y maes rhyngwladol.

Yn ôl prif weithredwr URC, Roger Lewis “mae’r cytundeb yn un hanesyddol ar gyfer rygbi yng Nghymru”.