Bydd un o’r grwpiau teyrngarwyr olaf yng Ngogledd Iwerddon yn rhoi eu holl arfau o’r neilltu fewn chwe mis, meddai’r Llywodraeth.

Yr UDA – Mudiad Amddiffyn Ulster – yw’r mwya’ o’r grwpiau parafilwrol Protestannaidd a’r disgwyl yw y byddan nhw’n dadgomisiynu eu harfau erbyn mis Chwefror nesa’.

Yn adroddiad diweddara’r Comisiwn Annibynnol Rhyngwladol ar Ddigomisiynu, mae’r pennaeth, y Cadfridog John de Chastelain, fod y mudiad wedi ymrwymo i’r broses.

Fis Chwefror nesaf, bydd amnest sy’n caniatáu i grwpiau i ddigomisiynu eu harfau a hynny heb ofni cael eu herlyn, yn dod i ben ac mae dau grŵp teyrngarol arall, yr Ulster Volunteer Force a’r Red Hand Commando, eisoes wedi addo dadgomisiynu eu harfau nhw.

Mewn deng mlynedd ar hugain o drais, mae grwpiau’r teyrngarwyr wedi lladd bron i 1,000 o bobol yn yr ardal, Catholigion yn bennaf.

Y garfan weriniaethol, yr IRA, oedd y cynta’ i ddadgomisiynu, a hynny’n cael ei ystyried yn gam allweddol yn y broses heddwch.

“Hynod arwyddocaol”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod adroddiad diweddara’r Comisiwn yn “hynod arwyddocaol.”

“Mae’r diwedd i’w weld o ran digomisiynu,” meddai Shaun Woodward gan ychwanegu fod “llawer wedi’i gyflawni ers i’r Comisiwn gael ei sefydlu.”

Llun: Murlun gan yr UDA yn ardal y Shankill, Belffast (Trwydded CCA2.5)