Mae dau o’r cwmnïau ffonau symudol mwya’ yng ngwledydd Prydain wedi cytuno i uno.

Fe fydd Orange a T-Mobile yn dod at ei gilydd i greu cwmni gyda 28.4 miliwn o gwsmeriaid a gwerth £7.7 biliwn o fusnes.

Fe ddywedodd perchnogion y ddau gwmni – France Telecom a Deutsche Telekom o’r Almaen – eu bod wedi cytuno ar y fargen.

Fe fydd y cwmni newydd yn cyflogi 19,000 o bobol ond mae posibilrwydd y bydd rhai’n colli eu gwaith oherwydd yr uno.

Fe fydd gan y cwmni unedig tua 37% o’r farchnad ffonau symudol yng ngwledydd Prydain ond fe fydd y ddau frand yn aros ar wahân, am 18 mis o leia’.

Roedd cwmnïau eraill wedi dangos diddordeb ers iddi ddod yn glir fod Deutsche Telekom yn ystyried gwerthu T-Mobile.