Mae cwmni yn Sir Gaerfyrddin wedi gwrthod rhoi sylw ar ôl iddi ddod yn amlwg fod y cemegau yn yr achos cynllwynio terfysgol yn Llundain wedi cael eu prynu yno.
Fe ddywedodd rheolwr Health Leads UK wrth Golwg 360 ei fod wedi cael cyngor gan yr heddlu i beidio â dweud dim.
Yn ystod yr achos llys yn erbyn wyth dyn, fe ddywedwyd fod un o’r tri chynllwyniwr a gafwyd yn euog wedi teithio i San Clêr i brynu cemegyn o’r enw hydrogen perocsid.
Yn ôl y dystiolaeth, y bwriad oedd defnyddio’r cemegau i wneud bomiau i’w ffrwydro ar awyrennau rhwng gwledydd Prydain a’r Unol Daleithiau, gan ladd cannoedd, os nad miloedd.
Y daith i’r Gorllewin
Roedd Assad Sarwar, 29 oed, un o’r tri a gafwyd yn euog o’r cynllwyn, wedi mynd i Shir Gâr ym mis Ebrill 2006, bedwar mis cyn iddyn nhw gael eu harestio.
Roedd wedi prynu’r cemegyn o siop Health Leads UK, cwmni sy’n gwerthu pob math o feddyginiaethau, triniaethau a cholur trwy’r siop a thros y We.
Mae eu safle yn dangos sawl math o gynnyrch sy’n cynnwys hydrogen perocsid – gan bwysleisio nad oes modd eu hanfon dramor ar awyren.
Roedd Assad Sarwar wedi cael ei ddal gan gamerau’r heddlu yn gyrru’n rhy gyflym yn ystod y daith yn ôl rhwng cyffyrdd 34 a 35 o’r M4 – troeon Pencoed a Llantrisant.