Byddai cynllwyn bomio Llundain wedi arwain at “anhrefn a llofruddiaeth ar raddfa anghredadwy,” meddai Alan Johnson, yr Ysgrifennydd Cartref.

Mae’r prif bapurau newydd hefyd yn llawn o’r dyfalu am oblygiadau’r cynllwyn a’r cysylltiadau gyda’r mudiad terfysgol Al Qaeda a Phacistan.

Fe gafwyd tri dyn o Loegr yn euog o gynllwynio ffrwydradau a fyddai wedi lladd miloedd a dinistrio saith awyren drawsatlantig – mewn cynllwyn a drawsnewidiodd reolau diogelwch awyrennau.

Mae’r prif gynllwyniwr, Abdullah Ahmed Ali,28, Assad Sarwar, 29, a Tanvir Hussain, 28, yn awr yn aros i glywed eu dedfryd.

“Catastroffig”

Roedd y cynllwynwyr wedi rhoi ffrwydron hydrogen perocsid mewn poteli Lucozade ac Oasis. Byddai miloedd wedi’u lladd petai’r cynllwyn wedi gweithio. Dywedodd llefarydd yn y Tŷ Gwyn yn Washington y byddai’r canlyniadau’n “gatastrophig”.

Fe glywodd y llys fod y cynllwyn yn mynd yn ôl at Al Qaeda ym Mhacistan a bod arweinydd y gell ym Mhrydain, Abdulla Ahmed Ali, o ddwyrain Llundain, wedi cael ei ysbrydoli gan Osama Bin Laden.

Roedd y cynllwynwyr wedi honni mai dyfais gyhoeddusrwydd oedd y cyfan. Hwn oedd yr ail achos yn eu herbyn ar ôl i reithgor cynharach fethu â chytuno.

Dau achos

Roedd y ddau achos, yr ymchwiliad tros dair blynedd a’r ymgyrch wylio wreiddiol wedi costio tua £35 miliwn.

Wnaeth yr achos cynllwyn i ffrwydro ddim llwyddo yn erbyn pump o ddiffynyddion eraill – fe gafwyd un yn euog o gynllwyn i lofruddio, cafwyd un yn ddieuog o’r holl gyhuddiadau a doedd y rheithgor ddim yn gallu cytuno yn achos tri arall.

Fe fydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ystyried a fyddan nhw’n dod ag achos arall yn erbyn y tir.

Llun: Abdulla Ahmed Ali (PA)