Fe fydd warden traffig yn gorfod gwneud 120 awr o waith cymunedol a thalu £7,336 yn ôl wedi iddo ddal ymlaen i hawlio budd-daliadau anabledd ar ôl dychwelyd i’w waith.

Fe gafodd Peter Hollifield, 57 oed, ei weld yn cerdded rhwng tair a phedair milltir bob dydd o amgylch canol Caerdydd – er ei fod wedi hawlio na fedrai gerdded llawer, hyd yn oed gyda ffon.

Gweithio a hawlio

Fe glywodd Llys Ynadon Caerffili bod Peter Hollifield wedi hawlio budd-dal ym mis Medi 2005 ar ôl gorffen gweithio fel warden traffig am 18 mlynedd.

Ond dri mis ar ôl llwyddo gyda’r cais, fe aeth Hollifiled yn ôl i’w waith. Erbyn mis Mai 2006 roedd yn ôl yn warden traffig llawn amser – ond yn dal i hawlio.

Meddyginiaeth

Fe blediodd Peter Hollifield yn euog i fethu a rhoi gwybod am y newid i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac fe fydd yn talu’r arian yn ô fesul £100 y mis.

Dywedodd Christopher Davies, cyfreithiwr bod Hollifield yn dal i ddioddef o lid y cymalau a phoenau yn ei gefn. “Mae’n debygol y bydd yn colli ei swydd oherwydd y ddedfryd”

Yn ogystal ag ad-dalu’r arian, bydd rhaid i Peter Hollifield weithio’n ddi-dâl am 120 awr.

Llun:PA