Fe fydd y Canghellor yn dod i Gaerdydd heddiw i roi rhybudd am gyfnod tynn iawn o ran gwario cyhoeddus.

Fe fydd Alastair Darling yn dweud wrth Siambr Fasnach y brifddinas y bydd rhaid cwtogi unwaith y bydd yr economi wedi dechrau gwella o ddifri’.

Ei neges yn stadiwm bêl-droed a rygbi newydd y ddinas fydd bod y Llywodraeth am barhau i fuddsoddi dros dro ond am dynhau’r belt wedyn.

Dyma un o’r dyfyniadau sydd wedi ei ollwng o flaen llaw: “Mae’r cefndir economaidd byd-eang yn golygu y bydd gwario yn dynnach ymhobman = mwy o reswm fyth tros sicrhau mai gwasanaethau rheng flaen sy’n dod gynta’.

“Mae hyn yn golygu gosod blaenoriaethau. Mae’n golygu bod yn fwy effeithlon, parhau i ddiwygio, torri costau, cydweithio rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat.”