Mae un o arweinwyr enwad mwya’ Cymru yn galw am dynnu’r fyddin Brydeinig o Affganistan.

Fe fydd Llywydd Presbyteriaid Cymru yn gofyn i’r Prif Weinidog, Gordon Brown, gofio am ei wreiddiau yn fab y Mans yn yr Alban a rhoi’r gorau i’r ymladd.

Mewn araith wrth Gymanfa’r enwad yn Llanbed, fe fydd y Parch Haydn Thomas yn holi ai rhyfel a chreu gelynion yw’r ffordd orau o geisio rhwystro ymosodiadau terfysgol.

“Nid ateb terfysgaeth gyda therfysgaeth yw’r ateb,” fydd ei neges yn ei araith ola’ yn swydd y Llywydd. “Eisoes mae pedair gwaith yn fwy o filwyr Prydeinig wedi eu lladd yn Affganistan nag a laddwyd (yn yr ymosodiad terfysgol) ar y seithfed o Orffennaf.

“Rhaid canfod ffordd wahanol: ailddarganfod diplomyddiaeth a chymod, atgoffa’n hunain a gwleidyddion bod yna ffordd arall, sef ffordd Crist.”

Ddoe, roedd y Gymanfa Gyffredinol ei hun wedi pleidleisio tros dynnu’r milwyr o Affganistan.