Mae Gweinidog Cyfiawnder yr Alban eisiau cyhoeddi dogfennau sy’n awgrymu fod bomiwr Lockerbie’n ddieuog.
Fe ddywedodd Kenny MacAskill ei fod yn chwilio am ffyrdd o gyhoeddi rhagor o wybodaeth am ymchwiliad oedd wedi ei gynnal i achos Abdelbaset al-Megrahi gan gorff arolygu yn yr Alban.
Mae 800 tudalen o drafod a 13 cyfrol o dystiolaeth ar gael gan Gomisiwn Adolygu Achosion Troseddol yr Alban mewn adroddiad sy’n awgrymu fod y ddedfryd yn erbyn al-Megrahi yn anghywir.
Yn ôl papurau newydd yn yr Alban, fe fydd y Gweinidog Cyfiawnder yn trafod gyda’r Comisiwn i weld beth all gael ei gyhoeddi – heb enllibio pobol eraill a heb beryglu diogelwch.
“Dw i’n rhoi sicrwydd clir nad oes yna ddim byd i’w guddio,” meddai Kenny MacAskill wrth y Scotsman. “R’yn ni’n hapus i gyhoeddi cymaint ag y gallwn ni.”
Creu dadlau
Ond mae’r bwriad yn creu anghytundeb ymhlith cyfreithwyr – rhai’n dadlau nad yw adroddiad y Comisiwn yn rhoi unrhyw sicrwydd fod al-Megrahi yn ddieuog a rhai’n dweud fod angen ymchwiliad cyhoeddus.
Trwy gael ei ryddhau a’i anfon yn ôl i Libya, roedd al-Megrahi yn colli’r hawl i apelio yn erbyn ei ddedfryd oes. Y disgwyl oedd y byddai hynny wedi arwain at gyflwyno tystiolaeth newydd a chodi amheuon mawr am yr achos gwreiddiol.