Fe allai galwad ffug i’r gwasanaethau achub fod wedi peryglu bywydau a chostio miloedd o bunnoedd o arian cyhoeddus, meddai Gwylwyr y Glannau.

Yn hwyr brynhawn ddoe, fe gafodd timau achub ar dir a dŵr ac yn yr awyr eu hanfon i chwilio am gwch bach yn y môr ger Trefdraeth yn Sir Benfro.

Yn y diwedd, fe ddaeth yn amlwg mai galwad ffug oedd hi ac mae Rheolwr Watsh Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau wedi condemnio’r digwyddiad.

“Mae gwneud galwad ffug yn drosedd,” meddai Barry Skidmore. “Mae’n gwastraffu amser timau achub ac arian troseddwyr. A phe bai yna argyfwng go iawn, fyddai’r timau yma ddim wedi gallu ymateb mor gyflym.”

Dwy awr o chwilio

Ychydig cyn pedwar y prynhawn y daeth galwad o ffôn symudol yn dweud fod cwch bach mewn trafferth ger Trefdraeth.

Ar ôl methu â dychwelyd yr alwad, fe alwodd Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau ar nifer o dimau achub. Roedd Gwylwyr y Glannau yn chwilio o’r tir, tri chwch achub yn chwilio ar y dŵr a hofrennydd yr RAF yn chwilio o’r awyr.

Ddwy awr yn ddiweddarach, fe ddaeth hi’n glir fod yr alwad wedi dod o’r tir mawr yn Abergwaun.

Llun llyfrgell