Mae un o ffigurau amlyca’r Blaid Geidwadol wedi colli ei le yng Nghabinet David Cameron oherwydd sylwadau am gostau Aelodau Seneddol.

Fe gollodd Alan Duncan ei swydd yn Arweinydd cysgod Tŷ’r Cyffredin ac ef o hyn ymlaen fydd yn wynebu’r Cymro, David Hanson, y Gweinidog Carchardai.

Mae Alan Duncan ei hun wedi dweud fod y penderfyniad yn un “synhwyrol” ar ôl iddo gael ei ddal ar fideo cudd yn cwyno fod cyflogau a chostau Aelodau Seneddol yn rhy isel a’u bod yn gorfod by war “rations”.

Y broblem i arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, oedd mai Alan Duncan a fyddai wedi arwain dadleuon ei blaid tros faterion lwfansau.

Ddoe, fe ddywedodd Alan Duncan ei fod yn “hapus iawn” i fynd i’r afael â swydd newydd. “Mae hwn yn benderfyniad synhwyrol. Y peth pwysica’ yw ennill yr Etholiad Cyffredinol a dw i ddim eisiau body n rhwystr yn hynny o beth.”

Mae dull y diswyddo – a’r ymateb iddo – yn awgrymu y gallai Alan Duncan ddod yn ôl i’r rheng flaen yn y dyfodol.