Mae cyn gyd-gapteiniaid Caerfaddon, Michael Lipman ac Alex Crockett, wedi colli’r apêl yn erbyn eu gwaharddiad.
Fe gafodd y ddau, ynghyd ag Andrew Higgins, eu gwahardd am naw mis am fethu cymryd profion cyffuriau ar ddiwedd tymor diwethaf.
Penderfynodd Andrew Higgins ymddeol o’r gêm, ond roedd Lipman a Crockett wedi gobeithio lleihau’r gwaharddiad gyda’r apêl yma.
Doedd y chwaraewyr ddim yn bresennol wrth i banel tri dyn gyfarfod yn Llundain i ystyried eu hapêl. Cymerodd y panel ychydig o dan ddwy awr i wneud eu penderfyniad.
Mae gwaharddiad y chwaraewyr wedi cychwyn ers 1 Mehefin 2009 – dyddiad eu hymddiswyddiad o’r clwb – ac fe fydd yn parhau tan 28 Chwefror 2010.