Mae’n debyg bydd un o sêr Rwsia, Andrey Arshavin, ar gael i wynebu Cymru nos Fercher ar ôl gwella o anaf.

Fe fethodd Arshavin fuddugoliaeth Rwsia yn erbyn Liechtenstein ddydd Sadwrn.

Ond mae e’ wedi ymarfer y bore ‘ma ac fe fydd yn hedfan i Gymru gyda gweddill y garfan.

Mae angen buddugoliaeth ar Rwsia yn erbyn Cymru i gael unrhyw obaith o gipio’r safle cyntaf yn y grŵp oddi ar yr Almaen, a sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica’r flwyddyn nesaf.

Roedd hyfforddwr Rwsia, Guus Hiddink, wedi dweud yr wythnos diwethaf bod angen gorffwys ar Arshavin.

Ond ar ôl cwblhau sesiwn ymarfer, mae’n debygol y bydd y chwaraewr o glwb Arsenal ar y cae.