Mae clwb Crewe Alexandra wedi cwyno’n swyddogol i Gymdeithas Bêl Droed Lloegr yn erbyn tîm o’r Uwch Gynghrair gan honni eu bod nhw’n gwneud cais anghyfreithlon am un o’u chwaraewyr.

Dywedodd cyfarwyddwr pêl droed Crewe, Dario Gradi, bod ‘na glwb o’r Uwch Gynghrair wedi cysylltu gydag un o’u chwaraewr 15 oed yn anghyfreithlon.

‘Dwyn’

“Mae e’n chwaraewr gwych ac mae wedi dweud ei fod am adael er mwyn gallu ymuno gyda chlwb mawr”, meddai Gradi.

“Mae’r clybiau mawr yn dwyn chwaraewyr oddi ar glybiau eraill, ac mae ‘na bryder ariannol i’r clybiau yma.

“Pa fath o iawndal mae’r clybiau yn mynd i gael am yr holl waith o ddatblygu’r chwaraewyr? Byddai hynny’n dila beth bynnag, mewn cymhariaeth â’r ymdrech i ddatblygu’r chwaraewr.”

Ymchwiliad

Daw hyn ar ôl i Chelsea gael eu gwahardd rhag prynu chwaraewyr newydd tan 2011 oherwydd bod Fifa wedi eu cael yn euog o annog Gael Kakuta i dorri ei gytundeb â Lens yn 2007.

“Rwy’n falch iawn bod Chelsea wedi cael eu cosbi”, meddai Gradi.

“Rwy’n gobeithio bod y clybiau mawr yn pryderu, gan nad oes esgus i dorri’r rheolau.”

Mae’n debyg y gallai Man Utd wynebu ymchwiliad gan Fifa hefyd ar ôl i glwb Ffrengig arall, La Havre, ofyn i’r awdurdod pêl droed i edrych yn fanylach ar drosglwyddiad eu cyn chwaraewr, Paul Pogba, i Old Trafford fis diwethaf.