Mae rheithgor yn Llys y Goron Woolwich wedi cael tri eithafwr Mwslemaidd yn euog heddiw o gynllunio i lofruddio miloedd o bobol drwy ffrwydro awyrennau oedd yn hedfan rhwng Prydain ac America.

Cafwyd Abdulla Ahmed Ali, 28, o Walthamstow, yn euog o arwain y cynllun, a Assad Sarwar 29, o High Wycombe, a Tanvir Hussain, 28, o Leyton, o chwarae rhan ynddo.

Bydd y tri yn cael eu dedfrydu ddydd Llun nesaf.

Bomiau hylif

Roedd Abdulla Ahmed Ali wedi ei ysbrydoli gan Osama bin Laden ac ymosodiadau 7 Gorffennaf yn Llundain.

Roedd ef a gweddill ei griw wedi cynllunio i gario’r ffrwydron mewn cynhwysyddion diod meddal ar awyrennau cwmnïoedd United Airlines, American Airlines ac Air Canada, oedd yn hedfan i San Francisco, Toronto, Montreal, Washington, Efrog Newydd a Chicago.

Cafodd y tri eu harestio yn 2006, ac yn dilyn hyn, cafodd cyfyngiadau eu gosod mewn meysydd awyr ar yr hyn y mae teithwyr yn cael mynd efo nhw ar awyrennau.

Dyw teithwyr ddim yn cael cario hylif ar awyren, ac mae maint eu bagiau wedi eu cyfyngu.

Pe bai’r cynllun wedi llwyddo, mae’n debyg y byddai mwy o bobol wedi cael eu lladd nac o ganlyniad i ymosodiadau 11 Medi, yn yr Unol Daleithiau.