Ers blynyddoedd bellach mae’r gamp o sglefr-fyrddio (skateboarding) wedi bod yn fyw ac yn iach yn y gogledd… a heb os, Yannick Hammer yw’r deinamo tu ôl y sîn.

Mae’r gŵr 29 oed yn hoffi gwibio ar hyd palmentydd yn ei amser hamdden, ac ochr yn ochr â hynny mae’n hollol gyffyrddus tu ôl i gamera.

Ef yw un o sefydlwyr ‘Dŵr’ – criw o sglefr-fyrddwyr yn y gogs – ac am bron i ddegawd mae wedi bod yn ffilmio eu triciau a’u giamocs.