Mae ysgolion yn gallu gwylio sioeau am arwyr hanes Cymru – o Llywelyn ein Llyw Olaf i Mari Jones a’i Beibl – tan hanner tymor yr hydref, a hynny am ddim.
Cyn dyddiau gofidus Covid, roedd cwmni theatr Mewn Cymeriad yn arfer teithio i ysgolion a safleoedd treftadaeth o gwmpas y wlad, yn cyflwyno degau o sioeau gwahanol am gymeriadau a straeon o hanes Cymru.