Mae Bro360 yn cydweithio â chymunedau yn Arfon a Cheredigion i gynnal saith o wefannau bro – y lle ar y we i’r lleisiau lleol. Dyma flas o’r fideos, blogs ac erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi gan bobol y filltir sgwâr, am eu milltir sgwâr dros yr wythnos ddiwethaf…
Presant i James Rodriguez gan hogyn o Ddeiniolen
Sut mae fideo o Ben Hughes – sy’n gefnogwr Everton ac yn dwad o Ddeiniolen – gydag un o chwaraewyr pêl-droed gorau Ewrop wedi annog Echo Falls i greu potel win arbennig?
Yr holl hanes (a’r fideo aeth yn feiral) gan Tomos Roberts ar ei wefan fro!
Gwylio: Caernarfon360
Addoli ar Zoom
“Yn betrus, ymunodd 21 o aelwydydd yn y gwasanaeth cyntaf ym mis Mai, a bellach mae’r nifer wedi cynyddu i dros 30 o aelwydydd.”
Capeli, canghennau Merched y Wawr, Clybiau Ffermwyr Ifanc, clybiau chwaraeon… mae amryw o gymdeithasau sy’n rhoi i ni flas ar fyw wedi bod yn gwneud eu gorau i ymdopi yn ystod y pandemig.
I nodi chwe mis ers dechrau’r Cyfnod Clo, mae mudiadau wedi bod yn defnyddio eu gwefan fro i rannu profiadau am sut maent wedi llwyddo i addasu. Un o’r rhain yw Capel y Garn yn Bow Street, sydd wedi defnyddio technoleg i gynnal y fflam a bod o les i’r aelodau.
Darllen: BroAber360.cymru
Croeso i logo Caron360!
“Aderyn sy’n hofran yn gyson uwch ein pennau a thros ein bro, yn cadw llygad ar bawb a phopeth… sef union bwrpas Caron360.”
Ie, y barcud coch yw logo gwefan fro Tregaron a’r cylch. Yr “aderyn pwerus, hudolus sy’n cynrychioli’r ardal yn berffaith,” yn ôl Enfys Hatcher Davies. Mae’n rhannu’r stori tu ôl i ddewis yr eicon (a’r syniadau eraill ddaeth yn agos i’r brig!) ar Caron360 yr wythnos hon…
Darllen: Caron360.cymru
Straeon bro poblogaidd yr wythnos
- Cariad dan glo, gan Glain Llwyd ar BroAber360
- Addoli ar Zoom, gan Marian Hughes ar BroAber360
- Esgyn i’r awyr i godi arian at ein Bwrdd Iechyd, gan Gareth Whalley ar BroAber360