Wedi 29 mlynedd yn ddyn tywydd S4C, mae’r gŵr 55 oed wedi rhoi’r gorau iddi. Mae’n byw gyda chanser y prostad ac yn llysgennad dros yr elusen Prostrate Cymru, ac mae ganddo sawl haearn yn y tân…

Sut wnaethoch chi gychwyn cyflwyno’r tywydd?

Wnes i adael y Coleg Normal [ym Mangor] yn 1987 a mynd lawr i Gaerdydd a chael swydd fel tea boy tra’n cael fy hyfforddi fod yn ŵr camera.

A gŵr camera fues i am flynyddoedd, yn teithio dros y byd. A tra bo fi’n dal i wneud hynny, wnes i ddechrau cyflwyno’r tywydd yn 1991.

Beth yw’r atgofion cynnar am broffwydo’r tywydd?

Pan wnes i gychwyn roedd ganddo chi symbolau metalig ar y map tywydd, ac weithiau roedden nhw yn disgyn oddi ar y map.

Ac mi fydden ni yn mynd ar do’r swyddfa dywydd yng Nghaerdydd, i gael edrych ar beth oedd yn digwydd.

Sut deimlad yw rhoi’r gorau iddi ar ôl 29 mlynedd?

Dw i wedi bod yn disgwyl galwad ffôn ers rhai blynyddoedd yn dweud: ‘Mae dy amser wedi dod i ben’.

Rydw i wedi bod yn lwcus iawn ac mae wedi bod yn anrhydedd.

Dw i’n meddwl mai fi yw’r cyflwynydd tywydd [sydd wedi bod wrthi] hiraf, yn sicr yng Nghymru, ond hefyd ym Mhrydain.

D’yw hyd yn oed Siân Lloyd na Derek [Brockway] ddim wedi gwneud e’ am gymaint â hynny.

Pryd gawsoch chi wybod bod ganddo chi ganser y prostad?

Roeddwn i wedi dathlu fy mhen-blwydd yn hanner cant, rhyw bum mlynedd yn ôl, ar ôl cael un bach yn ormod falle yn Aberaeron.

Ond wedyn, doeddwn i methu pasio dŵr am dros 24 awr… roedd y prostad wedi chwyddo.

Ges i fy rhuthro i’r ysbyty a chael catheter… gesh i check-up yn 2018 a wnaethon nhw ffeindio’r celloedd canser.

Mae o yn y cyfnod cynnar ar hyn o bryd, felly wnawn nhw ddim gwneud dim byd ond cadw llygad arno trwy brofion gwaed ac ati.

Pam bo chi wedi dod yn llysgennad tros yr elusen Prostrate Cymru?

Rydw i wedi gwirfoddoli yn y Sioe Frenhinol a’r Steddfod, yn treial cael dynion – sy’n hopeless am siarad am bethau meddygol – i fynd i’r doctor i gael prawf gwaed i weld a oes tebygrwydd o gael canser y prostad.

Rydw i’n angerddol am siarad am y ffaith nad oes raid i ddynion fyw gyda prostrad sy’n chwyddo, ac yn sicr ddim byw gyda chanser y prostad.

Ond y gyfrinach yw ei ddal e’n gynnar. Ewch i weld y doctor yn syth!

O le ddaeth yr awydd i fynd i weld tornados?

Dw i wastad wedi caru tywydd garw ac eithafol ac fe fydda i yn mynd i Ocklahoma, Kansas, Nebraska a Tecsas y flwyddyn nesa’.

Does dim sicrwydd eich bod am weld tornado, ond fe fydd e’n brofiad!

Sut mae eich gwaith arall wedi newid yn ystod y cyfnod clo?

Rydw i wedi bod yn gwneud ffilmiau corfforaethol a chyflwyno gwobrau a chynadleddau ers blynyddoedd.

Ond gyda’r pandemig daeth popeth i stop, cyn dod nôl yn araf bach, yn rhithiol.

A dw i wedi bod yn gwneud gwobrau a chynadleddau dros Zoom.

Fydda i’n gwneud sesiynau codi hyder a siarad cyhoeddus dros Zoom, a hyd yn oed ocsiwn Gelf i godi arian i Blaid Cymru.

Sut wnaeth y busnes gwerthu sanau gychwyn?

Wnes i ddechrau gwneud mygs a phosteri a lliain sychu llestri, ar y thema tywydd, blynyddoedd yn ôl.

A rhyw dair blynedd yn ôl, wnes i gyfarfod boi o’r enw Chris Jones, coeliwch neu beidio.

Fe yw pennaeth cwmni Corgi yn Rhydaman sy’n gwneud sanau a’u gwerthu rownd y byd ac i Harrods.

Ddaethon ni at ein gilydd i greu sanau yn seiliedig ar y tywydd.

Maen nhw yn anhygoel o boblogaidd ac fe wnaethon ni werthu tri pâr o sanau eira i Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada.

Beth yw eich atgofion o blentyndod?

Pysgota am grancod yn harbwr Aberaeron a helpu fy nhad [Eric Jones] i lanhau peiriannau argraffu ei fusnes e’, Gwasg Aeron.

Beth yw eich ofn mwya’?

Ystlumod.

Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?

Cerdded y ci ar y traeth ger ein cartref yn Aberogwr. A dw i wedi bod yn lwcus i gerdded ledled y byd tra yn cael fy nghyflogi fel gŵr camera, yn ffilmio mewn llefydd fel Chili, Peru, America, a China.

Beth sy’n eich gwylltio?

Pobol yn y cyfryngau sy’n cymryd e’ lawer, lawer rhy serious… yn meddwl bo nhw’n gwneud y swydd bwysicaf yn y byd.

Ry’n ni mor lwcus – mae fy mrawd yng nghyfraith yn gweithio gyda phobol â phroblemau salwch meddwl, alcohol a chyffuriau. Proper job fyddwn i’n galw hwnna.

Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?

Mark Knopfler, Michael Sheen, Jacinda Ardene a fy ffrind gorau, James Thomas o Felinfach, sy’n foi hyfryd.

Mae fy ngwraig, Lou, yn gogyddes ffantastig a bydden ni’n bwyta ei garlic mushrooms, stecen, garlic potatoes ac asparagus.

Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?

Heblaw fy ngwraig, Grace Jones.

Fe es i i’r cyngerdd Jones Jones Jones yng Nghanolfan y Mileniwm, gyda fy record Grace Jones yn y gobaith o’i chael i’w arwyddo.

Fe ges i dreulio tri chwarter awr – dim ond hi a fi – yn ei stafell newid, yn yfed shampên, bwyta mefus a siarad am Gymru.

A wnaeth hi arwyddo’r record feinyl: ‘To Chris, from your love slave, Grace’.

A ges i glamp o sws ganddi hi!

Beth yw eich hoff wisg ffansi? 

Elvis.

Beth yw’r gwyliau gorau i chi fwynhau?

Tair wythnos ar ynys Roegaidd Agistri.

Beth yw eich hoff ddiod feddwol?

Guinness oer.

Beth yw eich hoff air?

Trôns.

Beth yw eich hoff dywydd?

Gwynt a glaw.

Rhannwch gyfrinach efo ni…

Rhyw dair i bedair blynedd yn ôl, wnes i recordio’r gân ‘Hei, Hei, Ble’r Aeth yr Haul?’ gyda Heather Jones.

Rydw i wastad wedi bod eisiau canu mewn band, a dw i’n dal i freuddwydio am y peth!