Mae S4C wedi derbyn cwynion am iaith y sylwebaeth ar eu darllediad o gêm fyw y Scarlets yn erbyn Leinster yng Nghynghrair Magners nos Sadwrn.

Roedd y sianel wedi gofyn i wylwyr digidol oedd am wrando ar sylwebaeth Gymraeg i ddefnyddio’r botwm coch er mwyn gwneud hynny.

Ond nos Sadwrn, fe gafodd y sylwebaeth Gymraeg ei roi ar y ffrwd Saesneg – gan olygu bod y sawl oedd eisoes wedi newid i’r ffrwd Gymraeg, yn clywed sylwebaeth Saesneg.

“Mae S4C yn ymddiheuro am y trafferthion a’r dryswch sydd wedi parhau i’n gwylwyr gyda’r dewis iaith ar y sylwebaeth chwaraeon,” meddai llefarydd.

“Rydym ni’n gobeithio datrys y trafferthion hynny erbyn dydd Sadwrn nesaf. Yn y cyfamser, dim ond sylwebaeth Gymraeg fydd ar gael ar gêm Cymru v Rwsia nos Fercher.

“Mae’n wir ddrwg gennym am yr hyn sydd wedi digwydd, a gallwn sicrhau’n gwylwyr ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys y sefyllfa.”

(Llun: Parc y Scarlets)