Mae Dafydd Wigley wedi cadarnhau ei fod wedi tynnu ei enw’n ôl fel un o dri enwebai ei blaid am aelodaeth o Ail Siambr San Steffan.

Dywedodd Llywydd Anrhydeddus Plaid Cymru fod yr enwebiadau wedi eu hatal gan y Prif Weinidog Gordon Brown, a’i fod eisiau canolbwyntio ei ymdrechion i gefnogi ymgyrch y Blaid ar gyfer etholiadau San Steffan yn 2010 ac etholiadau’r Cynulliad yn 2011.

Disgrifiodd yr ansicrwydd parhaus ynghylch ei enwebiad i Dŷ’r Arglwyddi fel rhywbeth oedd yn tynnu sylw ac yn ei gwneud yn anodd iddo gynllunio sut i ymwneud yn effeithiol â hyn.

Etholodd y Blaid Mr Wigley ynghyd ag Eurfyl ap Gwilym a Janet Davies yn ôl ym mis Ionawr 2008 i fod yn aelodau etholedig cyntaf o Ail Siambr San Steffan.

“Rwy’n dal yn rhoi fy nghefnogaeth lwyr i ddau enwebai arall Plaid Cymru yn eu hymdrechion i gynrychioli Cymru yn yr Ail Siambr,” meddai Dafydd Wigley, cyn AS ac AC dros Blaid Cymru.

“Mae’r sefyllfa gyfansoddiadol sydd gennym ar hyn o bryd yn golygu ei bod yn hanfodol cael pobl yn Nhŷ’r Arglwyddi sydd yn gofalu bod llais Cymru yn cael ei glywed pan fydd deddfwriaeth Gymreig yn cael ei drafod.

“Ers iddi ddod yn amlwg y gallai deddfwriaeth Gymreig gael ei daflu allan gan Ail Siambr anetholedig San Steffan, gwnaeth y Blaid benderfyniad dewr i anfon cynrychiolwyr yno er mwyn sicrhau fod anghenion pobl Cymru yn cael eu clywed a’u hystyried.

“Mae’n siomedig na all y bobl mewn grym yn San Steffan eu hunain benderfynu a yw plaid wleidyddol arall i gael llais neu beidio yn un o ddwy siambr senedd y DG, sydd ag effaith uniongyrchol ar ddeddfwriaeth i Gymru, ac y mae’r digwyddiad hwn yn ategu’r angen i ddemocrateiddio’r ail siambr.”

‘Cywilyddus’

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones , bod Gordon Brown yn “gweithredu yn gywilyddus” wrth “atal yr enwebiadau i Dy’r Arglwyddi”.

Ychwanegodd bod hynny, “Ar waetha’r ffaith fod enwebiad Dafydd Wigley wedi ei gefnogi gan nifer o bobl ar draws y pleidiau, gan gynnwys aelodau o’r blaid Lafur.

“Mae wedi gweithredu yn hollol hunanol wrth amddiffyn a hybu buddiannau ei Lywodraeth gloff ei hun uwchlaw’r prosesau democrataidd ac anghenion Cymru.

“Cawsom nifer o drafodaethau gyda chynrychiolwyr Llywodraeth y DG ar hyn, a chael sicrwydd dro ar ôl tro fod yr enwebiadau yn cael eu hystyried yn ddwys, ond mae’n amlwg nad yw hyn yn wir.

“Rwy’n deall yn llwyr felly pam fod Dafydd wedi dod i’r penderfyniad hwn i dynnu ei enwebiad yn ôl ac i ganolbwyntio ei egnïon ar feysydd lle gall barhau i wneud cyfraniad gwiw. Mae’n sicr yn golled i Gymru na fydd yn aelod o’r Ail Siambr ond mae gennym, er hynny, ddau enwebai cryf iawn o hyd.”