Mae 60,000 o bobol wedi cymryd mantais o gynllun sydd â’r amcan o gynorthwyo’r gwasanaethau brys sy’n cael eu galw i gartrefi cleifion bregus yn ne Cymru.
Amcan y cynllun ‘Neges Mewn Potel’ yw rhoi gwybodaeth i’r gwasanaethau brys am gyflwr meddygol cleifion cyn gynted â phosib.
Mae’r wybodaeth yn cael ei ysgrifennu ar daflen sy’n cael ei chadw mewn potel blastig werdd yn nrws oergell y cleifion.
Mae label efo croes werdd yn cael ei roi ar yr oergell ac ar ddrws blaen y tŷ, sy’n dangos fod y botel yno.
Clwb Rotari Bae Caerdydd sy’n gyfrifol am y cynllun sydd wedi bod yn gweithredu ers 2006.
Mae 60,000 o’r poteli wedi cael ei dosrannu ar draws de Cymru erbyn hyn.
Mae’r poteli ar gael mewn fferyllfeydd, a gwahanol ysbytai, meddygfeydd a chanolfannau dydd o amgylch ardal Caerdydd.