Mae honiadau fod gweithwyr yng nghanolfan llinell gymorth ffliw’r moch yn Abertawe yn treulio’u dyddiau yn chwarae gemau, darllen a chysgu.

Yn ôl adroddiadau papur newydd, mae ymchwiliad wedi cychwyn i’r honiadau.

Mae’r Gwasanaeth Pandemig Ffliw Cenedlaethol wedi cael ei sefydlu ers bron i ddeufis, efo’r nod o leddfu baich meddygon drwy adnabod achosion o’r salwch dros y ffôn.

Ond wrth i nifer yr achosion ddisgyn, mae llai o bobol wedi bod yn galw’r 19 canolfan sydd wedi eu sefydlu ar draws y Deyrnas Gyfunol.

Galwadau o Loegr sy’n cael eu derbyn yn y ganolfan yn Abertawe, gan fod Llywodraeth y Cynulliad wedi penderfynu nad oes angen i Gymru gymryd rhan yn y cynllun.