Mae disgwyl i Joe Ledley chwarae i Gymru yn erbyn Rwsia nos Fercher er ei fod wedi torri asgwrn yn ei arddwrn.

Roedd chwaraewr canol cae Caerdydd wedi’i anafu ar ôl llithro ar risiau yn ystod trip i Baris.

Bydd Ledley yn gwisgo cast ysgafn ar ei fraich er mwyn gwarchod yr asgwrn.

Dywedodd cadeirydd Caerdydd, Peter Ridsdale, y bydd Ledley yn chwarae i Gymru pe bai dyfarnwr y gêm yn ei ganiatáu.

Mae John Toshack yn bwriadu i Ledley fod ar yr asgell chwith.

Fe fydd Toshack yn gobeithio y bydd hawl gan y Cymro chwarae gan fod ’na ddiffyg chwaraewyr yn y garfan i lenwi’r bwlch ar yr asgell.

Bydd Dave Jones hefyd yn gobeithio y bydd Ledley yn holliach gyda’r Adar Glas yn wynebu Newcastle Utd yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul.