Mae trais mewn perthynas ymhlith yr ifanc yng ngogledd Cymru yn “bryder mawr” yn ôl yr NSPCC.

Mae’r ymchwil diweddaraf yn awgrymu bod chwarter merched ifanc y gogledd yn dioddef cam-driniaeth gydag un ym mhob tair yn dioddef trais rhywiol mewn perthynas.

Fe wnaeth Prifysgol Bryste a’r NSPCC lunio’r adroddiad ar ôl holi 1,400 o bobl ifanc Cymru a Lloegr ynghylch trais o fewn perthynas.

Mae’n debyg fod 88% o’r merched a gafodd eu holi wedi dweud eu bod mewn perthynas agos â phartner.

Roedd mwyafrif y merched mewn perthynas â dynion a 4% mewn perthynas ag aelod o’r un rhyw.

O’r nifer hwn, roedd tri chwarter y merched a gafodd eu holi hefyd yn honni’u bod wedi dioddef o gam-driniaeth emosiynol.

Yn ôl yr ymchwil, mae’n debyg fod merched ifanc yn fwy tebygol na bechgyn o gyfaddef achosion ailadroddus o drais corfforol, emosiynol a rhywiol.

“Curo”

Dywedodd merch a oedd eisiau aros yn ddienw: “Dim ond am wythnos ro’n i wedi bod yn canlyn fy nghariad.

“Ond, oherwydd nad oeddwn i’n fodlon gwneud yr hyn yr oedd o eisiau (cyfathrach rywiol) fe ddechreuodd dynnu arna i a’m curo.”

Yn ôl yr NSPCC, mae’r darganfyddiad yn debygol o gael “effaith bwysig ar oblygiadau lles pobl ifanc” gan fod y dystiolaeth yn dangos pa mor eang yw trais ymhlith yr ifanc.