Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru wedi cyhoeddi heddiw y bydd y prawf gyrru ysgrifenedig yn cael ei addasu ddiwedd mis Medi.

Yn ôl yr asiantaeth, bydd adran ychwanegol i’r prawf er mwyn “asesu dealltwriaeth ymgeiswyr o theori gyrru”.

O 28 Medi ymlaen, bydd pum cwestiwn ychwanegol i’r prawf, a fydd wedi eu selio ar gynnwys paragraff sy’n disgrifio sefyllfa yrru ddychmygol.


Mwy o newidiadau i ddod

Yn ôl llefarydd ar ran yr Asiantaeth Safonau Gyrru, mae disgwyl i fwy o’r math yma o gwestiynau gael eu cyflwyno yn y prawf.

“Ar y dechrau, rydym yn cyflwyno un astudiaeth achos wedi’i seilio ar gwestiynau presennol ym manc cwestiynau’r prawf theori, er mwyn cyfarwyddo ymgeiswyr â’r cysyniad,” meddai Jill Lewis, Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gyrwyr yr Asiantaeth Safonau Gyrru.

“Bydd hefyd yn caniatáu i ni fonitro unrhyw effaith ar y prawf ysgrifenedig. Dros amser, rydym yn bwriadu cyflwyno mwy o astudiaethau achos i mewn i’r prawf i asesu dealltwriaeth ymgeiswyr o’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu.

“Mae’r newidiadau i’r prawf theori’n rhan o raglen Dysgu Gyrru – cynllun hirdymor o newidiadau mawr fydd yn cryfhau’n gynyddol y modd y mae pobl yn dysgu gyrru ac yn cael eu profi.”