Mae Morgannwg wedi colli eu gêm ddiweddaraf yn y gystadleuaeth Pro40 yn erbyn Swydd Caerlŷr.
Fe gollodd y Dreigiau o 23 rhediad, er i Will Bragg gyfrannu 78 o rediadau. Dyma oedd perfformiad gorau Bragg yn y gêm un dydd i Forgannwg.
Fe wnaeth Bragg fwynhau partneriaeth dda gyda Tom Maynard – wrth sgorio 39 o rediadau.
Ond roedd bowlio Swydd Caerlŷr yn effeithiol gyda Wayne White yn cipio pedair wiced am 36 rhediad.
Mae Morgannwg ar waelod y tabl, heb yr un fuddugoliaeth yn y Pro40 y tymor hwn.