Mae Israel wedi cymeradwyo yn swyddogol cynllun i adeiladu cannoedd o gartrefi newydd ar y Llain Orllewinol.

Mae disgwyl i’r cyhoeddiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn heddiw, ddyfnhau tensiynau sydd eisoes wedi datblygu rhwng yr Unol Daleithiau ac Israel ar y mater.

Cafodd y gwaith adeiladu ei gymeradwyo yn y lle cyntaf gan lywodraeth y Prif Weinidog, Benjamin Netanyahu.

Mae o dan bwysau gan yr Unol Daleithiau i rewi unrhyw brosiectau i adeiladu ar diroedd y mae’r Palestiniaid yn eu hawlio.

Er mwyn ceisio bodloni’r Americanwyr, dywedodd Benjamin Netanyahu heddiw bod y tai newydd wedi eu cymeradwyo cyn iddyn nhw addo peidio adeiladu mwy.

Mae’r gorchymyn yn cynnwys caniatâd i fwrw ymlaen ag adeiladu tref newydd yn Nyffryn yr Iorddonen, ardal sy’n cael ei ystyried yn hanfodol i ddyfodol gwlad annibynnol i’r Palestiniaid oherwydd ei dir fferm ffrwythlon a’i leoliad yn ddwfn y tu fewn i’r Llain Orllewinol.

“Wrth ystyried y dewis rhwng heddwch ac adeiladu, maen nhw wedi penderfynu adeiladu,” meddai llefarydd ar ran yr Palestiniaid.