Mae Andy Murray wedi sicrhau ei le yn rownd yr 16 olaf ym Mhencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau gyda buddugoliaeth yn erbyn yr Americanwr, Taylor Dent.

Roedd yr Albanwr yn rheoli gydol y gêm gan ennill mewn tair set- 6-3 6-2 6-2, wedi awr a hanner yn stadiwm Arthur Ashe.

Dywedodd Murray ei fod yn hapus gyda’i berfformiad, gan nodi ei fod o wedi serfio’n dda yn ystod y gêm.

“Rwy’n hoff iawn o chwarae yn erbyn y math o chwaraewr sy’n serfio a folïo,” meddai’r Albanwr.

“Ro’n i wedi dychwelyd y bêl yn dda, ac rwy’n credu bod hynny wedi bod yn allweddol.”

Bydd Murray yn wynebu’r gŵr o Groatia, Marin Cilic, ddydd Mawrth am le yn rownd yr wyth olaf.