Mae dyfodol tîm y bencampwraig beicio o Gymru Nicole Cooke yn y fantol wrth iddo frwydro i ddod o hyd i noddwr cyn diwedd y tymor.

Roedd Cooke wedi sefydlu’r tîm Vision One lai na blwyddyn ‘nôl, ond mae’r dirwasgiad wedi cael effaith mawr ar faint o nawdd sydd ar gael i chwaraeon.

Mae’r bencampwraig Olympaidd a’r byd wedi rhoi eiu harian ei hun mewn i’r tîm er mwyn ei gynnal.

Fe gafodd Vision One ergyd arall ar ôl i’r rheolwr, Stefan Wyman, adael y tîm. Bu rhaid i Nicole Cooke gymryd y faich o reoli hefyd.

“Dyw hi ddim yn bosib rheoli’r tîm a beicio”, meddai Cooke.

“Os na fydd gennym ni’r cyllid y tymor nesaf, bydd rhaid i ni roi’r gorau i’r tîm.”

Yn y cyfamser, mae Nicole Cooke yn paratoi i amddiffyn ei theitl fel pencampwraig y byd yn Mendrisio yn y Swistir yn hwyrach yn y mis.