Mae prop y Scarlets, Rhys Thomas, yn wynebu gwaharddiad ar ôl cael cerdyn melyn yn erbyn Leinster nos Sadwrn.

Fe dreuliodd Thomas ddeg munud yn y cell cosb yn ystod hanner cyntaf y gêm, ar ôl iddo fynd mewn i ryc a tharo pen Shane Horgan gydag ergyd o’i ben yntau.

Bydd gwrandawiad yn cael ei drefnu gan banel disgyblu Undeb Rygbi Cymru yr wythnos yma.

Pe bai panel yn cael Rhys Thomas yn euog, fe fyddai’n wynebu o leia’ chwech wythnos o waharddiad.