Mae corff y gwystl o Gymru a gafodd ei ddal yn Irac, Alec MacLachlan, wedi ei ddychwelyd adref ar ôl cael ei drosglwyddo i ofal Llysgenhadaeth Prydain yn Baghdad yr wythnos ddiwethaf.
Cafodd corff Alec MacLachlan, o Lanelli, ei gludo’n ôl i Brydain gan yr RAF y bore yma a daeth ei deulu i’w gyfarfod.
Dywedodd llefarydd ar ran y swyddfa dramor: “Mae corff Alec MacLachlan, un o’r gwystlon a gafodd eu cymryd yn Baghdad ym Mai 2007, wedi ei ddychwelyd yn gynharach heddiw.”
Cadarnhaodd y llefarydd fod corff y gwystl wedi cyrraedd Lyneham oddeutu 9.55am a bod aelodau’r teulu yn bresennol.
Dywedodd hefyd bod staff y swyddfa dramor yn “parhau i fod mewn cysylltiad agos â’r holl deuluoedd” ac yn ymdrechu’n ddyfal i sicrhau bod y gwystlon eraill yn dychwelyd adref.
Wythnos ddiwethaf, mewn datganiad i’r cyhoedd, fe wnaeth y Prif Weinidog addo y byddai’n cosbi’r sawl oedd yn gyfrifol am y llofruddiaeth.
Chwech wythnos yn ôl, dywedodd y swyddfa dramor wrth deuluoedd Alec MacLachlan ac Alan McMenemy o Glasgow nad oedd yn debygol eu bod yn fyw.
Cafodd y ddau eu dal yn 2007 gyda’r swyddogion diogelwch Jason Swindlehurst a Jason Creswell (sydd eisoes wedi’u lladd) a Peter Moore.
Mae’r Prif Weinidog yn credu fod Peter Moore dal yn fyw.