Mae dyn 41 oed o Fae Colwyn wedi’i arestio mewn cysylltiad â digwyddiad ym Mhrestatyn ar 24 Ionawr eleni ble ymosodwyd ar ddynes â pholyn lôn.

O ganlyniad, fe ddioddefodd y ddynes anafiadau difrifol. Mae’r dyn wedi’i arestio ar amheuaeth o ymgeisio i lofruddio ynghyd â gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae’r dyn yn cael ei ddal gan yr Heddlu ac yn parhau i gael ei holi.

Hefyd, fe arestiwyd ail ddyn mewn cysylltiad â’r achos ar amheuaeth o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder. Yn dilyn ei arestio, mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.


Ymosodiad ar ddyn yn y Fflint

Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth ar ôl ymosodiad ar ddyn y tu allan i westy yn y Fflint fis diwethaf.

Am tua 0.15am ar ddydd Sadwrn, 8 Awst, fe gafodd dyn ei daro yn ei wyneb wrth iddo sefyll y tu allan i’r Ship Hotel ar Market Square.

Llwyddodd y dyn 24 oed i redeg i gyfeiriad yr orsaf drenau ond fe wnaeth y ddau ddyn ei ddilyn ac ymosod arno ar waelod y llwybr oedd yn croesi’r rheilffordd.

Cafodd y dyn ei drin am anafiadau difrifol i’w wyneb yn yr ysbyty.

Dywedodd yr heddlu bod ffilm CCTV yn dangos bod y digwyddiad wedi ei weld gan “nifer o bobol”.

“Dw i’n annog unrhyw un oedd tu allan i’r gwesty ac wedi gweld yr ymosodiad i ddod ymlaen,” meddai llefarydd.

Credir bod y ddau ymosodwr wedi dychwelyd i ardal Market Square.

Disgrifir y cyntaf fel:

• Gwyn
• Tua 5’11”
• Tenau
• 18 – 25 oed
• Gwallt du wedi’i dorri’n fyr
• Tracsiwt du gyda streipiau gwyn ar y breichiau
• Top a trainers gwyn

Roedd yr ail ddyn yn:

• Gwyn
• Rhwng 5’7” a 5’11”
• Corff cadarn
• Rhwng 20-15 oed
• Gwallt blond tywyll wedi’i dorri’n fyr
• Trowsus lliw golau a sgidiau du

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio PC 2675 Rachel Roberts ar 101 neu 0845 607 1001, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.