Mae artist sydd wedi’i sefydlu yng Nghymru wedi darganfod bod ei gwaith yn cael ei werthu a’i ffugio yn China.

Fe sylweddolodd Mandy Wilkinson, 38 oed, o Bontfadog, ger Llangollen, bod ei gwaith yn cael ei ddwyn ar ôl derbyn e-byst gan bobl o’r Unol Daleithiau, Seland Newydd a’r Iseldiroedd yn datgan eu bod yn hoffi ei phaentiadau a’u bod wedi prynu ei gwaith.

“Twyllo”

Dywedodd yr artist wrth bapur newydd y Western Mail nad oedd y paentiadau Tsieineaidd yn edrych yn union fel ei phaentiadau hi ond y gallai’r person cyffredin (heb arbenigedd Celf) gamgymryd y gweithiau’n hawdd.

Mae David Godfrey, sy’n cynrychioli’r artist a pherchennog Galeri 94 yn Llundain, wedi dweud fod Mandy Wilkinson “wedi’i thwyllo mwy nag unrhyw artist sy’n fyw heddiw,” oherwydd bod gymaint wedi ffugio ei gwaith.

Cafodd Mandy Wilkinson ei geni ym Manceinion. Enillodd radd ddosbarth cyntaf o Athrofa Celfyddydau Cumbria yn Carlisle.

(Llun: Mandy Wilkinson)