Mae dyn o’r Rhisga yn gwella ar ôl i firws bwyta cnawd achosi iddo golli tua 50% o groen ei goes dde.

Dechreuodd anhwylder Paul Roberts, 48, ym mis Gorffennaf, ar ôl brifo’i goes wrth godi’n rhy gyflym i ateb y ffôn.

Ar ôl cyfnod, dechreuodd ei goes droi’n goch, a darganfuwyd yn Ysbyty Brenhinol Gwent ei fod yn dioddef o necrotizing fasciitis – firws sy’n gallu bod yn farwol.

Fe ymledodd y firws gan achosi i Paul Roberts golli tua 50% o groen ei goes, o’i bigwrn i’w glun.

Ymledodd y firws i’w galon, ei ysgyfaint a’i arennau, ac am gyfnod, roedd ar beiriant cynnal bywyd.


Achub organau

Ond fe wnaeth cyffuriau gwrthfiotig achub yr organau rhag difrod, ac erbyn hyn, mae wedi cael dychwelyd adref, ar ôl i groen o’i goes chwith gael ei ddefnyddio i drin ei goes dde.

Cafodd Paul Roberts ei ddyfynnu yn y papur newydd, Campaign, yn dweud ei fod yn lwcus i fod yn fyw.

“Mae bob dydd yn fonws nawr,” meddai Paul Roberts, “rydych chi’n byw am nawr ac yn trysori eich teulu yn fwy. Mae’n ddechrau newydd yn 48 oed.”

Yn ôl Campaign, mae tua 500 achos o necrotizing fasciitis yn y Deyrnas Gyfunol yn flynyddol.