Mae ymgyrch wedi ei lansio i gynnwys Cernywaidd fel un o’r opsiynau cenedligrwydd ar Gyfrifiad 2011.
Mae Aelodau Seneddol a chynghorwyr ymysg y rheiny sy’n lobïo i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i gynnwys y categori.
Yn ôl papur newydd yr Independent mae’r ONS wedi gwrthod, gan ddweud bod pobol yn rhydd i roi eu cenedligrwydd fel ‘Cernywaidd’ ar y ffurflenni, fel y gwnaeth 37,000 o bobol yn 2001.
Ond yn ôl yr ymgyrchwyr, fe fyddai mwy o bobol yn sylweddoli bod modd cofnodi eu cenedligrwydd fel ‘Cernywaidd’ pe bai blwch i’w dicio ar y daflen.
Mae mwy na 3,000 o bobol eisoes wedi ymuno â grŵp Facebook yn galw am y newid.
Fe wnaeth Mebyon Kernow, sy’n ymgyrchu am lywodraeth i Gernyw fel Cymru a’r Alban, ennill tair sedd yn etholiadau cyngor y sir ym mis Mehefin, mwy na Llafur nac UKIP.
Mae AS Gogledd Cernyw, o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol, wedi cefnogi mesur i roi Cynulliad ar wahân i’r sir.