Cafodd grŵp o fewnfudwyr anghyfreithlon eu darganfod yn cuddio mewn lori llawn powdwr glwten oedd ar ei ffordd i Wrecsam.
Fe wnaeth swyddogion ffiniau Prydain ganfod y 18 o ddynion yn Calais ar Awst 27 ar ôl i gi oedd wedi ei hyfforddi yn arbennig arogli’r dynion.
Roedd yr 16 dyn o Afghanistan a dau o Irac ar eu ffordd i Ogledd Cymru cyn iddyn nhw gael eu dal a’u gyrru yn ôl dros y ffin i ddwylo awdurdodau Ffrainc.
Fe allai gyrrwr y lori a’i gwmni wynebu dirwy o £2,000 am fod â mewnfudwyr anghyfreithlon arni, os nad oedden nhw wedi diogelu’r llwyth yn gywir.
“Roedd y lle o fewn y tancr tua thri chwarter llawn, gyda dim tyllau i adael aer i mewn. Byddai’r daith ar draws Prydain wedi cael effaith ddifrifol ar iechyd y dynion,” meddai llefarydd.
“Ers mis Ionawr eleni rydan ni wedi atal 14,000 ymgais unigol i groesi i Brydain yn anghyfreithlon ac wedi chwilio 400,000 o loriau am fewnfudwyr anghyfreithlon.”