Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i dîm rygbi’r Harlequins ddydd Sadwrn wrth i’r clo, George Robson, gael ei yrru oddi ar y cae am daro chwaraewr arall gyda’i ben.

Cafodd enw da’r clwb rygbi ei chwalu dros yr haf gan y sgandal ‘Bloodgate’ – ond daeth unrhyw obaith i roi’r cyfan y tu ôl iddyn nhw i ben ar ôl 46 eiliad yn unig o’u gêm yn erbyn Wasps Llundain ddoe, wrth i’r dyfarnwr ddangos cerdyn coch i Robson.

Defnyddio gwaed ffug er mwyn twyllo’r dyfarnwr oedd wedi dinistrio enw da’r Harlequins dros yr haf, ond roedd gwaed go iawn i’w weld wedi’r ymosodiad ar fewnwr y Wasps, Joe Simpson.

Dywedodd bod ganddo gur pen ar ol y gêm a briw ar ei drwyn.

“Fe ddaeth o draw ac ymddiheuro ar ôl y gêm, ac fe wnes i dderbyn hynny, ond rydw i’n dal wedi fy siomi gyda beth ddigwyddodd,” meddai Joe Simpson.

“Dydi o ddim wir yn ysbryd y gêm, dw i ddim yn meddwl.”

Eironi mawr y noson oedd mai enw’r dyfarnwr wnaeth ddangos y cerdyn coch i George Robson oedd Dean Richards – yr un enw a chyfarwyddwr rygbi Harlequins wnaeth ymddiswyddo dros yr haf am geisio celu’r twyll.

Wasps gafodd y gair olaf yn y gêm gan ennill y frwydr yn Uwch Gynghrair Guinness o 26-15.