Fe frwydrodd y Scarlets yn ôl o fod ar ei hôl hi o 10-16 ar hanner amser i ennill 18-16 yn erbyn pencampwyr Ewrop, Leinster, yn eu gem gyntaf o’r tymor nos Sadwrn.
Fe wnaeth ceisiau gan Sean Lamont a Phil John gadw’r crysau cochion yn y gêm cyn iddyn nhw grafu ar y blaen drwy gic gosb gan Rhys Priestland lai na deg munud cyn y chwiban olaf ym Mharc y Scarlets.
Fe wnaeth Lamont, chwaraewr newydd i’r Scarlets, sgorio ei gais cyntaf ar ôl chwe munud yn unig.
Roedd Leinster heb chwech o’u Llewod, gan gynnwys y capten Brian O’Driscoll. Ond roedden nhw’n anlwcus i golli gêm y dylen nhw fod wedi ei hennill.
Roedden nhw 7-16 ar y blaen ar un cyfnod yn yr hanner cyntaf wedi cais gan Girvan Dempsey a thair cic gosb gan Jonathan Sexton.
Ac fe aeth y Scarlets lawr i 13 dyn ar un cyfnod wedi i Richie Pugh a Rhys Thomas gael eu hanfon i’r gell gosb.
Ond yn erbyn llif y chwarae, yr Scarlets wnaeth sgorio gyntaf yn yr ail hanner gyda Phil John yn croesi am gais ar ôl 65 munud.
Ceisiodd Priestland am gic adlam yn y munudau olaf er mewn ysgafnhau’r pwysau ar ei dîm ond methodd.
Ond er gwaethaf wyth munud o amser ychwanegol daliodd y Scarlets ymlaen am y fuddugoliaeth a dechrau arbennig i’r tymor.